Fe fydd yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed yn swyddogol am y tro cynta’ yn Abaty Westminster mewn gwasanaeth i gofio merthyr a sant.
Fe fydd Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yn rhoi anerchiad Cymraeg i gofio Sant John Roberts o Drawsfynydd a gafodd ei ddienyddio 400 mlynedd yn ôl.
Fe fydd gwaith celf newydd yn portreadu Dewi Sant hefyd yn cael ei ddadorchuddio gan Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas.
Mae’r gwasanaeth ddydd Sadwrn, Gorffennaf 17, yn benllanw ar fisoedd o weithgareddau i gofio am y merthyr ac fe ddaw ar ddiwedd pererindod o Drawsfynydd i Lundain, lle cafodd y Cymro’i ladd.
Pwy fydd yno
Mae holl esgobion Pabyddol ac Anglicanaidd Cymru wedi dweud y byddan nhw yno ac fe fydd Archesgob Westminster hefyd yn siarad.
Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan, fe fydd y ddau newyddiadurwr o Lundain, Huw Edwards a Guto Harri, y canwr Dafydd Iwan a’r delynores Alwena Roberts.
Fe allai’r gymysgedd fod hyd yn oed yn fwy catholig gan fod Maer Llundain, Boris Johnson, hefyd wedi mynegi awydd i fod yno.