Fe fydd darn ‘newydd’ o waith gan y cyfansoddwr William Mathias yn cael ei berfformio’r wythnos nesa’ – ar ôl bod ‘ar goll’ am 15 mlynedd.

Fe ddaeth y pianydd Iwan Llewelyn-Jones o hyd i sonata i’r piano a’r fiolín a oedd wedi ei gyfansoddi gan y cerddor pan oedd yn ddim ond 17 oed.

Roedd y darn wedi ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ers 15 mlynedd a, hyd y gŵyr neb, erioed wedi cael ei berfformio’n gyhoeddus.

Fe fydd hynny’n digwydd am y tro cynta’ yn Galeri Caernarfon nos Wener, Gorffennaf 2, gydag Iwan Llewelyn-Jones ei hun yn canu’r rhan piano.

Addas

Mae’r lle’n addas hefyd gan mai yno y mae Canolfan William Mathias lle mae’r pianydd hefyd yn diwtor gwadd.

Roedd dod o hyd i’r darn yn “gyffrous”, meddai yntau, yn enwedig wrth sylweddoli ei fod yn ddarn cyfan, gorffenedig.

“Mae yna rywbeth arbennig am y cyfansoddiad nodedig yma gan fachgen ysgol 17 oed,” meddai Iwan Llewelyn-Jones. “Mae’n rhoi golwg newydd i chi ar y cyfansoddwr, lle y dechreuodd a sut y datblygodd ei waith tros y blynyddoedd.”

Llun: Iwan Llewelyn-Jones (o’i safle Facebook)