Mae’r cefnogwr pêl-droed a lwyddodd fynd i mewn i stafell newid tîm Lloegr a rhoi pryd o dafod iddyn nhw, wedi cael ei arestio.

Fe gadarnhaodd Heddlu De Affrica y bydd Pavlos Joseph, 32 oed, o Lundain, yn cael ei gyhuddo o dresmasu ar ôl mynd i mewn i’r stafell newid yn union wedi gêm gyfartal ddiflas Lloegr yn erbyn Algeria yng Nghwpan y Byd.

Fe ddywedodd y cefnogwr ei fod yn chwilio am dŷ bach a’i fod wedi mynd y ffordd anghywir ar ôl cael cyfarwyddyd gan swyddog diogelwch.

Ar ôl landio yn y stafell newid fe ddywedodd wrth y chwaraewyr bod eu perfformiad yn “ddifrifol o wael”.

Y tywysogion hefyd

Ychydig funudau ynghynt, roedd dau ddieithryn arall yn y stafell newid, ond mae’n debyg bod y tywysogion William a Harry wedi cael gwahoddiad yno gyda David Beckham, llysgennad Lloegr.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod wedi arestio Pavlos Joseph yn ei westy ar ôl ei adnabod trwy luniau teledu cylch cyfyng.

Ond, yn ôl y dyn ei hun, roedd wedi rhoi ei gerdyn busnes i un o swyddogion y corff pêl-droed rhyngwladol, FIFA.

Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw a FIFA a’r trefnwyr lleol wedi cael cyfarfod i wella’r drefn ddiogelwch.

Llun: Y gwesteion swyddogol – William, Beckham a Harry (AP Photo)