Cyn weinidog Llfur fydd yn cadeirio comisiwn y Llywodraeth i edrych ar bensiynau’r sector cyhoeddus.
Ac mae cyn ddirprwy arweinydd y blaid, John Prescott, wedi ei gyhuddo o fod yn “darian ddynol” ar gyfer rhai o’r polisiau Ceidwadol “mwya’ creulon a dideimlad” ers 20 mlynedd.
Fe dderbyniodd John Hutton y gwahoddiad i gadeirio’r Comisiwn wrth i’r Canghellor George Osborne ddweud bod rhaid delio gyda rhai cynlluniau sy’n cynnig gormod.
Fe ymosododd John Prescott arno ef a’r Llafurwr arall, Frank Field, sydd wedi gwneud gwaith i’r Ceidwadwyr ar fudd-daliadau.
“Mi faswn i’n gofyn os ydyn nhw’n gallu byw efo’u cydwybod,” meddai John Prescott ar ei flog. “Ond mi fyddai’n rhaid amau a oedd ganddyn nhw un i ddechrau.”
Fe fydd y Comisiwn yn gwneud rhai argymhellion erbyn yr hydref ac yn cynnig cynllun tymor hir erbyn y Gyllideb y flwyddyn nesa’.
Y gred yw y bydd John Hutton, sy’n gyn weinidog yn yr Adran Waith a Phensiynau, yn ei gwneud hi’n haws perswadio’r undebau i dderbyn unrhyw newid – ar hyn o bryd, maen nhw’n bygwth gwrthwynebu.
Preifat yw’r broblem meddai’r TUC
Yn ôl Brendan Barber, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur – y TUC – nid pensiynau sector cyhoeddus oedd y broblem ond y diffyg ym mhensiynau’r sector preifat.
Dim ond un o bob tri o weithwyr yn y sector hwnnw oedd yn rhan o bensiwn gyda chyfraniad gan gyflogwr. O ganlyniad, meddai Brendan Barber, fe fyddai llawer rhagor o bobol yn dibynnu ar fudd-daliadau ar ôl ymddeol.
Mae’r Canghellor wedi addo na fydd neb yn colli arian sydd wedi ei ennill eisoes.
Llun: John Prescott (Steve Punter CC2.0)