Fe fydd y toriadau yn y Gyllideb ddydd Mawrth yn galed ond teg, meddai’r Canghellor George Osborne.

Ond mae un o arweinwyr y Blaid Lafur yn rhybuddio bod y Llywodraeth yn ail-wneud camgymeriadau mawr yr 1930au.

Mae disgwyl i George Osborne gyhoedd cyfres o doriadau gwario a rhywfaint o godi trethi yn ei Gyllideb frys.

Fe ddywedodd ar raglen deledu Andrew Marr y bore yma ei bod yn Gyllideb “angenrheidiol” er mwyn rhwystro’r diffyg yn sefyllfa ariannol gwledydd Prydain rhag mynd o ddrwg i waeth.

Heb weithredu, meddai, fe fyddai “llogau’n codi, busnesau’n mynd i’r wal, diweithdra’n codi a safonau byw yn gostwng”.

Llafur yn rhybuddio

Ond yn union fel y gwnaethon nhw cyn yr Etholiad, mae Llafur yn dweud bod torri gormod yn rhy gyflym yn bolisi peryglus.

Yn ôl y cyn weinidog Ed Balls, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid, mae’n beryglus rhoi blaenoriaeth i dorri os yw hynny’n golygu colli swyddi thwf.

Gyda’r holl bapurau’n darogan cynnydd mewn Treth ar Werth, fe ddywedodd Ed Balls y byddai hynny’n annheg ac yn “taro a gwasgu’r adfywiad gan ddinistrio swyddi”.

Llun: George Osborne cyn y rhaglen (BBC-Gwifren PA)