Mae tua 27 o bobol wedi cael eu lladd gan ddau hunanfomiwr yng nghanol prifddinas Irac.
Fe gafodd blaen gwydr un o ganghennau banc y wladwriaeth yn Baghdad ei chwalu’n llwyr gan y ddau ffrwydrad.
Roedd yr ardal yn llawn pobol ar eu ffordd i’r gwaith pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar Fanc Masnach Irac – y diweddara’ mewn cyfres o gyrchoedd mewn llefydd amlwg yng nghanol y ddinas.
Ychydig ddyddiau’n ôl roedd dynion gyda gynnau – terfysgwyr al Qaida sy’n cael y bai – wedi ymosod ar gangen o’r banc.
Y gred yw bod gwrthryfelwyr yn ceisio creu anhrefn oherwydd y gwagle gwleidyddol sy’n bod ers canlyniadau amhendant yr etholiadau yn Irac ym mis Mawrth.
Er bod yr heddlu’n swyddogol yn sôn am 18 wedi marw, roedd un ysbyty’n dweud bod 27 wedi’u lladd.
Llun (AP Photo)