Fe ddiflannodd gobeithion Rhys Davies o wneud yn dda ym Mhencampwriaeth Golff Agored yr Unol Daleithiau.

Er iddo gyrraedd y ddwy rownd ola’, fe gafodd y Cymro rownd siomedig ddoe gan daro 79 – wyth ergyd yn waeth na’r safon.

Mae hynny’n golygu ei fod bellach 14 yn waeth ac 20 ergyd y tu ôl i’r dyn ar y blaen, yr Americanwr, Dustin Johnson.

Dim ond un bluen a gafodd Davies ddoe, ond fe ollyngodd ergyd ar saith twll, a dwy ergyd ar yr 11fed.

I’r gwrthwyneb, fe sgoriodd Johnson bump yn well na’r safon i fynd dair ergyd ar y blaen i Graeme McDowell o Ogledd Iwerddon.

Dim ond dwywaith o’r blaen y mae Johnson wedi chwarae yn y Bencampwriaeth a’i safle ucha’ cyn hyn oedd 40fed. Ond mae Tiger Woods hefyd yn closio, un ergyd yn well.