Mae chwalfa tymor Morgannwg yng nghystadleuaeth yr Ugain20 yn parhau.

Fe gawson nhw eu chwalu gan Essex neithiwr, gan golli o naw wiced gyda bron saith pelawd wrth gefn.

Er gwaetha’ dechrau da, fe gafodd batwyr canol Morgannwg eu dinistrio’n llwyr – fe aethon nhw o 47 heb golled i 57 am 6 ac fe gollwyd dwy wiced arall ar 65.

Dim ond Jim Allenby (25), Marc Cosgrove (24) a Robert Croft (22 heb fod allan) a sgoriodd ddim o werth wrth i’r Cymry gyrraedd cyfanswm tila o 94 am 9.

Dim ond y troellwr Dean Cosker a lwyddodd i gymryd wiced wrth i Essex gyrraedd y cyfanswm yn hawdd – ar 95 am 1 ar ôl dim ond 13.1 pelawd.

Ar ôl ennill tair gêm ar ôl ei gilydd yn y gystadleuaeth, mae Morgannwg bellach wedi colli tair o’r bron.

Llun: Robert Croft, un o’r ychydig fatwyr llwyddiannus