Mae nifer y bobol sydd wedi eu lladd gan lifogydd yn China wedi codi i 132, ond mae o leia’ 86 arall ar goll.
Mae’r stormydd cryf wedi effeithio ar filiynau o bobol gydag adroddiadau swyddogol yn awgrymu bod 860,000 wedi gorfod dianc o’u cartrefi yn ne’r wlad.
Y disgwyl yw y bydd rhagor o stormydd mellt a tharanau a glaw trwm yn ystod yr oriau nesa’.
Fe ddaeth y glawogydd ar ôl cyfnod o sychter eithafol ac maen nhw wedi effeithio ar lawer o brif afonydd y wlad, gan gynnwys y fwya’ oll, yr Yangtze.
Fe gafodd argaeau a ffyrdd eu dinistrio ac mae’r cyflenwad ynni wedi ei golli mewn sawl man ar draws naw rhanbarth gwahanol.
Llun: Afon Yangtze (Cheol Ryu – Trwydded GNU)