Mae’r Llywodraeth wedi cyfadde’ bod cost ariannol y rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan wedi codi i fwy nag £20 biliwn.
A dyw hynny ddim yn cynnwys cyflogau’r milwyr na’r gost o drin y rhai sy’n cael anafiadau tymor hir.
Yn ôl y ffigurau swyddogol, mae tua £18 biliwn o’r gwario yna wedi bod yn uniongyrchol ar yr ymladd ac mae’n ychwanegol at gostau arferol y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ychydig tros £9 biliwn a gafodd ei wario yn Irac ond mae’r cyfanswm yn Afghanistan bellach wedi croesi £11 biliwn.
Mae’r ffigurau wedi cael eu beirniadu gan wleidyddion asgell chwith – yn ôl yr arweinydd undeb Bob Crow o’r RMT, does dim modd cyfiawnhau’r fath wario “grotésg” ar adeg o dorri ar wasanaethau a swyddi.
Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth Lafur ddiwetha’, mae £4 biliwn wedi eu clustnodi ar gyfer eu gwario.
Paul Flynn yn beirniadu
Mae’r AS Cymreig, Paul Flynn, hefyd wedi ymosod unwaith eto ar y rhyfel yn Afghanistan, gan gyhuddo’r Prif Weinidog o wrthod cydnabod y gwir.
Roedd David Cameron wedi gorfod newid ei drefniadau wrth ymweld â’r wlad yr wythnos ddiwetha’ oherwydd cryfder gwrthryfelwyr y Taliban. Ond doedd e ddim wedi sôn am hynny wrth wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Dyw’r rhyfel ddim yn llwyddiant,” meddai Paul Flynn ar ei flog. “Mae’n llanast gwaedlyd ac anobeithiol.”
Llun: Milwyr yn Afghanistan (AP Photo)