Does dim arwydd y bydd rhaid i’r Ysgrifennydd Ynni ymddiswyddo ar ôl gadael ei wraig am ei gariad.

Ddoe, wrth i’r papurau newydd, ddechrau holi am ei fywyd preifat, fe gyhoeddodd Chris Huhne ei fod mewn “perthynas ddifrifol” gyda swyddog PR o’r enw Carina Trimingham.

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn bwriadu gadael ei wraig, yr uwch was sifil, Vicky Pryce. Mae ganddyn nhw dri o blant, rhwng 16 a 23 oed, ac mae ganddi hi ddau blentyn arall o’i phriodas gynta’.

Fe ddaeth hi’n amlwg bod y gwleidydd a’r ymgyrchwraig sy’n gweithio i’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi bod mewn perthynas ers mwy na blwyddyn, gan ddefnyddio’i gartref ef yn ei etholaeth.

Y gred yw eu bod nhw wedi cwrdd pan oedd hi’n gweithio trosto yn ei ymgyrch aflwyddiannus am arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007.

Mae Chris Huhne yn 55 oed a hithau’n 44 – 13 blynedd yn iau na Vicky Pryce.

Ail sgandal

Dyma’r ail sgandal rhywiol i daro’r Llywodraeth ers iddi ddod i rym ddechrau mis Mai.

Eisoes, fe fu’n rhaid i’r Democrat Rhyddfrydol, David Laws, ymddiswyddo o fod yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ôl iddi ddod yn glir ei fod wedi bod yn defnyddio lwfansau seneddol i dalu am ystafelloedd yng nghartre’i gariad.

Llun: Chris Huhne adeg ei benodi (Gwifren PA)