Mae rhai o’r papurau newydd yn proffwydo y bydd y Canghellor yn codi £30 biliwn trwy doriadau a chynyddu trethi.

Yn ôl y rhan fwya’, mae hynny’n debyg o gynnwys toriadau mewn budd-daliadau a chynnydd mewn Treth ar Werth.

Fe fyddai’n golygu mai Cyllideb George Osborne ddydd Mawrth fydd y galeta’ ers Cyllideb Geoffrey Howe yn nechrau cyfnod Margaret Thatcher yn 1981.

Yn ogystal â thoriadau, mae’r Sunday Times yn dweud y bydd tua £10 biliwn yn cael ei godi trwy drethi newydd.

Gwrthryfel?

Ond mae rhai o’r papurau hefyd yn dweud y bydd aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthryfela gan ddweud bod y torri’n mynd yn rhy bell.

Yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol – cyn ymuno gyda’r Ceidwadwyr yn y Llywodraeth Glymblaid – roedd y blaid wedi dadlau yn erbyn torri’n rhy gynnar.

Un mesur arall sy’n cael ei ddarogan – ac sy’n debyg o gael derbyniad mwy gwresog – yw bwriad i dorri ar gostau Yswiriant Cenedlaethol i fusnesau newydd mewn ardaloedd tlawd.

Llun: George Osborne (Gwifren PA)