Mae’r heddlu’n ystyried a ddylen nhw ailagor achosion o lofruddiaeth yn erbyn doctor sy’n byw yng ngogledd Cymru.
Fe gadarnhaodd Heddlu Durham y byddan nhw’n trafod gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn â dod â chyhuddiadau newydd yn erbyn Howard Martin, sydd bellach yn byw ym Mhenmaenmawr ger Conwy.
Ddydd Gwener, fe gafodd y dyn 75 oed ei dynnu oddi ar restr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac fe gyfaddefodd wrth bapur newydd ei fod wedi helpu nifer o gleifion i farw trwy roi gormod o’r cyffur morffin iddyn nhw.
Yn 2005, roedd wedi wynebu tri achos o lofruddiaeth am ddiweddu bywydau cleifion, ond fe benderfynodd rheithgor ei fod yn ddieuog.
Ailystyried
Mae bellach yn bosib ailystyried achosion o’r fath os oes tystiolaeth newydd ond fe fydd rhaid i’r heddlu fynd trwy flynyddoedd o ffeiliau cyn penderfynu.
Mae Howard Martin yn mynnu ei fod wedi helpu’r cleifion – gan gynnwys ei fab ei hun – i farw gydag urddas ond yn un achos, o leia’, fe gafodd ei gyhuddo o wneud hynny pan nad oedd gwirioneddol angen gwneud.
Roedd ef ei hun wedi cyfadde’ wrth bapur y Daily Telegraph ei fod wedi gorfod gweithredu ddwywaith heb ganiatâd y cleifion.
Yn ôl adroddiadau papur newydd heddiw, mae perthnasau ei gyn gleifion yn Swydd Durham yn gymysg eu barn tros ei achos.
Llun: Howard Martin (Gwifren PA)