Cameroon 1 -2 Denmarc
Cameroon yw’r tîm cyntaf i golli eu lle yng Nghwpan y Byd 2010 wedi iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Denmarc mewn gêm gyffrous heno.
Roedd y ddau dîm wedi colli eu gemau cyntaf yn y gystadleuaeth nos Lun diwethaf – Denmarc o 2-0 yn erbyn yr Iseldiroedd, a Cameroon o gôl i ddim yn erbyn Siapan.
Roedd Cameroon, sy’n rhif 19 yn rhestr detholion y byd, yn ffefrynnau i gipio’r ail safle tu ôl i’r Iseldiroedd yng ngrŵp E, ac ennill eu lle yn 16 olaf. Bydd y golled yn ergyd drom i’r tîm o Affrica wedi iddyn nhw fod ar y blaen yn gynnar yn y gêm.
Roedd sïon cyn y twrnamaint fod seren Cameroon, Samuel Eto’o, wedi dadlau gyda chymdeithas bêl-droed y wlad yn ogystal â’r cyn chwaraewr chwedlonol Roger Milla. Er hyn, yr ymosodwr o Inter Milan a roddodd ei wlad ar y blaen wedi 10 munud yn dilyn blerwch yn amddiffyn Denmarc.
Roedd Denmarc yn ôl yn y gêm wedi 33 munud wrth i ymosodwr Arsenal, Nicklas Bendtner rwydo o groesiad perffaith Dennis Rommedahl.
Cafwyd llu o gyfleoedd i’r ddau dîm cyn diwedd yr hanner cyntaf, a pharhaodd natur agored y gêm wedi’r ailddechrau hefyd. Daeth y gôl fuddugol i seren y gêm,
Rommedahl ar ôl 61 munud – ei gyflymder yn ormod i amddiffyn y gŵyr o Affrica.
Cafodd y Cameroon ddigon o gyfleodd i ddod â’r sgôr yn gyfartal yn ystod hanner awr olaf y gêm ond yn ofer.
Iseldiroedd yn curo Siapan
Yng ngêm arall Grŵp E heddiw, cipiodd yr Iseldiroedd eu hail fuddugoliaeth o’r gystadleuaeth gan guro Siapan o 1-0 mewn gêm gystadleuol. Wesley Sneijder o Inter Milan sgoriodd unig gôl y gêm wedi 53 munud.