Mae pennaeth cwmni olew BP wedi cael ei feirniadu ymhellach heddiw – am ymddangos yn gyhoeddus ar iot ar Ynys Wyth, ac ymddwyn fel petai wedi anghofio popeth am ddifrifoldeb trychineb olew Gwlff Mecsico.

Tra bod swyddogion ei gwmni rhyngwladol yn mynnu mai ef sy’n parhau i fod yng ngofal y cynlluniau i lanhau’r moroedd yn y Gwlff, roedd Tony Hayward yn ymlacio ar fwrdd llong bleser JP Morgan Asset Management mewn ras ar Ynys Wyth.

Roedd iot o’r enw Bob, y mae Tony Hayward yn un o’i pherchnogion, yn cymryd rhan yn y ras o gwmpas yr ynys heddiw.

Ffrwydrad

Mae’r creisis sydd wedi dilyn y ffrwydrad yn ffynnon olew Deepwater Horizon – digwyddiad a laddodd 11 o bobol ac sydd wedi achosi i filiynau o alwyni o olew lifo i’r môr – y gwaetha’ i’r Unol Daleithiau orfod ei handlo erioed. Mae wedi creu tensiwn mawr rhwng llywodraeth America a chwmni BP.

Ddoe, fe gyhoeddodd Cadeirydd y cwmni, Carl-Henric Svanberg, y byddai Rheolwr Gyfarwyddwr BP, Bob Dudley, yn cymryd cyfrifoldeb dydd-i-ddydd am daclo’r llif oddi ar Tony Hayward.

Er hyn, mae BP yn mynnu mai Tony Hayward sy’n rheoli’r ymgyrch i arafu a stopio llif yr olew.