Fe ddaeth dros 200 o chwaraewyr ukulele at ei gilydd i fysgio heddiw, a hynny er mwyn dathlu’r offeryn cerdd.

Fe ddaeth y cerddorion at ei gilydd ar y Prom yn Cheltenham fel rhan o Wyl Ukulele Gwledydd Prydain dros y Sul.

Mae chwaraewyr wedi bod yn perfformio tonau fel ‘Sloop John B’ gan y Beach Boys; a ‘I’m The Urban Spaceman’ gan The Bonzo Dog Doo Dah Band.

Mae disgwyl i gannoedd yn fwy o bobol heidio i nifer o ddigwyddiadau’r wyl mewn llefydd gwahanol yn Swydd Gaerloyw y penwythnos hon.

Enwau mawr
Fe ddaeth enwau mawr y byd ukulele i Cheltenham – Gus a Fin o Glasgow, a The Re-entrants, Hot Potato Syncopators, yn ogystal â’r Winin’ Boys o wlad Belg.

“Mae lot o bobol yn amheus o’r peth ar y dechrau, ond wedyn maen nhw’n gweld faint o hwyl ydi dod at ein gilydd i fwynhau a gwerthfawrogi’r ukulele,” meddai un o’r trefnwyr.