Mae heddlu’r Eidal wedi casglu tua 70,000 o belenni o’r caws mozzarella yn ninas Turin, ar ôl i gwsmeriaid sylwi, ar ôl agor y pecynnau, fod gan y caws gwyn rhyw wawr las.
Mae’r Gweinidog Amaeth, Giancarlo Calan, wedi gorchymyn ymchwiliad gan labordai y wlad, gan ddisgrifio’r holl stori fel un “anffodus”.
Mae gorsafoedd teledu yn adrodd fel y cysylltodd cwsmer gyda’r heddlu ar ôl sylwi fod y mozzarella, sy’n cael ei gynhyrchu yn yr Almaen ar gyfer cwmni yn yr Eidal, wedi troi’n las ar ôl dod i gysylltiad gydag aer.
Mae nifer o werthwyr caws yn Turin wedi derbyn cwynion tebyg.