Mae David Cameron wedi addo y bydd e’n gwneud “popeth o fewn ei allu” er mwyn sicrhau y bydd democratiaeth yn ennill ei lle yn Burma.

Dyna oedd ei neges i’r ymgyrchwraig, Aung San Suu Kyi, wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 65 mlwydd oed dan glo oherwydd ei daliadau.

Fe ymunodd Prif Weinidog gwledydd Prydain gydag arweinwyr byd eraill, yn cynnwys Barack Obama, i nodi pen-blwydd yr ymgyrchwraig a thalu theyrnged i’w holl waith.

Mae hi wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel, ond mae heddlu ei gwlad yn ei dal yn garcharor yn ei chartre’ ers 14 mlynedd; a hynny er bod nifer o wledydd y byd yn credu bod hynny’n anghywir.

Cefnogaeth y CU a Cameron

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi galw ar i Aung San Suu Kyi gael ei rhyddhau, ynghyd â phob carcharor gwleidyddol arall yn Burma.

Yn ei lythyr agored ati, mae David Cameron hefyd yn galw am ei rhyddhau, ac yn mynnu ei fod yn deall y straen a’r anghyfiawnder.

“Mae anghyfiawnder eich carcharu yn ddrych o’r anghyfiawnder y mae eich gwlad chi wedi ei gwthio ar eich gwlad ac ar eich pobol ers cymaint o flynyddoedd.

“Trwy gydol yr amser hwnnw, rydych chi wedi sefyll yn gadarn, ar gost bersonol drom, dros egwyddorion rhyddid a chyfiawnder. Rydych chi wedi dod yn sumbol o gryfer yr ysbryd dynol.”