Mae Aelod Seneddol Toriaidd yn gwella heddiw ar ôl cael ei daro gan drên mewn gorsaf brysur yn Llundain.
Dim ond mân anafiadau ddioddefodd David Ruffley, sy’n cynrychioli Bury St Edmunds, yn y ddamwain oriau brig yng ngorsaf Victoria ddydd Iau.
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Llundain bod swyddogion wedi mynd i’r orsaf ar ôl i “ddyn 48 mlwydd oed gan ei daro gan drên”.
Cadarnhaodd hefyd bod y ddamwain wedi ei riportio am 5 o’r gloch, ac nad oedd yr amgylchiadau yn amheus. Fe ddaeth ambiwlans i’r orsaf a chludo’r gwr i Ysbyty St Thomas.
Mwyafrif
Fe gafodd David Ruffley, yr AS sydd wedi cynrychioli sedd Bury St Edmunds ers 1997, ei ddychwelyd i San Steffan gyda mwyafrif o 12,380 ar Fai 6 eleni. Mae’n gyn Chwip i’r blaid Geidwadol.
Yn ôl llefarydd ar ran y blaid Geidwadol: “Fe ddioddefodd David Ruffley fân anafiadau yn un o orsafoedd Llundain ddydd Iau.”