Mae swyddogion yn China wedi cadarnhau bod 90 o bobol wedi cael eu lladd gan lifogydd yn ne’r wlad yr wythnos hon.
Mae 1.4 miliwn o bobol hefyd wedi cael eu gorfodi i symud o’u tai, wrth i nifer ofni y daw mwy o law.
Mae 50 o bobol yn parhau ar goll, ac mae’r swyddfa sy’n cofnodi’r difrod yn dweud y gallai’r cyfanswm o bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd dinistriol fod mor uchel â 5.5 miliwn.
Fe gododd y dwr yn uwch nag erioed mewn dwsinau o afonydd, ar draws naw rhanbarth yn ne China.