Mae ymosodiad milwrol honedig gan yr Unol Daleithiau wedi lladd 13 o bobol yn un o ardaloedd llwythol Pacistan.
Mae bom ochr-ffordd arall wedi ei hanelu at heddlu yn y gogledd-orllewin, wedi lladd person cyffredin ac wedi anafu wyth o bobol.
Ond fe darodd y taflegryn Americanaidd dy ym mhentre’ Haider Khel ger tre’ Mir Ali yng ngogledd Waziristan.
Yn syth wedi’r ymosodiad, fe gyhoeddwyd bod tri wedi eu lladd. Ond erbyn hyn, mae un o swyddogion y llywodraeth wedi cadarnhau bod o leia’ 13 yn farw.