Eluned Owena Evans sy’n edrych ymlaen at wyliau… y gaeaf…
Wel dyma fi wedi bod yn byw yn yr Andes ers bron i bedwar mis erbyn hyn, ac mae gwyliau’r gaeaf ar y gorwel. Pythefnos o wyliau sydd yn ystod y gaeaf (ychydig yn fwy yn yr Andes oherwydd yr eira a’r gaeafau caled) ac yna mae rhyw ddeufis a hanner o wyliau haf – canol mis Rhagfyr tan Fawrth 1af. Yn ystod gwyliau’r gaeaf, fe fyddaf i’n teithio i Bariloche ac yna’n hedfan oddi yno i raeadrau enwog Iguazu yn yr Ariannin/Brasil ac yna byddaf yn treulio tair wythnos mewn Ysgol Iaith ym Muenos Aires, cartref y tango. Mae nifer o Gymry’r Wladfa yn byw ym Muenos Aires – maen nhw’n astudio yn y Brifysgol er enghraifft, ac fe fyddaf i’n siŵr o gwrdd â rhai ohonyn nhw. O Fuenos Aires, mae’n bosib mynd i Colonia yn Uruguay ar y llongau cyflym, ac felly fe wnaf i hynny cyn ei throi hi nôl am Esquel.
Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yma yn yr Ariannin wrth i ni ddathlu 200 mlynedd ers y Revolución de Mayo. Nos Lun, Mai 24ain, bues i mewn cyngerdd yng nghanolfan hamdden enfawr Esquel. Roedd y lle dan ei sang ac roedd yn gwbl wych – roedd canu, dawnsio Tango a dawnsio traddodiadol y Mapuche. Wnes i fwynhau’r pwyntpwer a oedd yn seiliedig ar hanes yr Ariannin yn fawr iawn. Am hanner nos, roedd hi’n amser i fi gydio ym maner Cymru a mynd ar y llwyfan gyda’r bobl eraill a oedd yn cynrychioli’u gwlad, a chanu anthem genedlaethol yr Ariannin wrth i’r cloc daro deuddeg. Wrth lwc, roeddwn i wedi dysgu’r geiriau o flaen llaw! Profiad gwefreiddiol!
Drannoeth, ar ôl seremoni gyda Maer y dref, fe wnes i gymryd rhan mewn ‘desfile’ gyda Chymdeithas Gymraeg Esquel. Fe wnaethon ni orymdeithio ar hyd strydoedd Esquel yn ein gwisgoedd traddodiadol wrth i filoedd o bobl wylio a chymeradwyo. Teimlad digon rhyfedd oedd gorymdeithio yn y wisg draddodiadol Gymreig gan nad wyf i wedi gwisgo’r wisg ’ma ers pan oeddwn i’n ddeng mlwydd oed! Serch hynny, roedd cannoedd o bobl yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol gwledydd eu cyndeidiau ac felly doeddwn i ddim yn teimlo allan o le o gwbl!
Dyma hanes y dathlu yn Nhrefelin gan Jessica Jones ac Isaías Grandis (Eseia):
Roedd mis Mai 2010 yn llawn lliw glas a gwyn i ddathlu dauganmlwyddiant yr Ariannin. Yn Nhrefelin, cawsom y dathliad yn Neuadd y Ganolfan Hamdden ac roedd yr ysgolion lleol yn canu ac yn dawnsio. Syrpreis oedd cael dynes sy’n siarad Cymraeg, Griselda Owen, yn dawnsio’r tango! Yn wahanol i weddill yr Ariannin, buodd baner Cymru yn sefyll rhwng baneri glas a gwyn yr ysgolion a’r Instituciones. Ar y diwedd, cawson ni siocled poeth blasus iawn (rico, rico) a partelitas traddodiadol, sef rhyw fath o bestri melys gyda jam cwins neu jam tatws melys.
Yn ystod yr wythnos cyn y dathliad, cafwyd tipyn o gyngherddau yn Neuadd y Dref a gorymdaith o ddillad traddodiadol Ewropeaidd er mwyn cofio am y bobl gyntaf a ddaeth yma o Ewrop.