Mae ymchwil arloesol gan wyddonydd o Gymru wedi ennill ei le ymhlith y 10 darganfyddiad mwyaf pwysig a wnaed erioed o fewn prifysgolion yng ngwledydd Prydain.

Yr Athro Martin Evans o Brifysgol Caerdydd oedd y cyntaf i ynysu bôn-gelloedd (stem cells) embryonig, llwyddiant sydd wedi arwain at ddatblygiadau blaengar yn y maes biofeddygol.

Gwnaeth ei ddarganfyddiad yn dilyn gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Roedd 432 o academyddion wedi pleidleisio yn ystod Wythnos y Prifysgolion, a daeth gwaith yr Athro Evans yn nawfed.

Darganfod DNA a ddaeth yn gyntaf. Roedd y lleill yn cynnwys darganfod olion bysedd genetig; genedigaeth y cyfrifiadur cyntaf; y bilsen atal cenhedlu; a sefydlu’r rhyngrwyd.

Erbyn hyn mae Martin Evans yn Llywydd ar Brifysgol Caerdydd. Enillodd y Wobr Nobel am Feddygaeth yn 2007, am gyfres o ganfyddiadau yn ymwneud â bôn-gelloedd embryonig ac ail-gyfuno DNA mewn mamaliaid.