Mae tîm rygbi dan 20 oed Cymru yn wynebu’r Ariannin yn Santa Fe heno yng ngemau ail gyfle Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
Mae hyfforddwr Cymru, Phil Davies, wedi dewis Steve Shingler yn faswr a bydd y clo Joel Galley yn dechrau ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.
Mae’r prop Dan Watchurst yn dychwelyd i’r tîm ac yn cymryd y gapteniaeth oddi ar Josh Navidi.
Ond mae Lloyd Peers, Ben John a Rhodri Jones allan o’r gêm oherwydd anafiadau.
Fe gollodd Cymru’r cyfle am le yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth ar ôl colli i Seland Newydd 43-10 yn eu gêm yn eu grŵp.
Ond fe allai Cymru wella ar eu chweched safle yn y gystadleuaeth y llynedd pe baen nhw’n curo’r Ariannin.
Bydd buddugwyr y gêm yn mynd ymlaen i wynebu naill ai Ffrainc neu Fiji i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn y pumed safle.
Carfan Cymru
Dan Fish; Kristian Phillips, Owen Williams, Scott Williams, Adam Hughes; Steven Shingler, Rhys Downes; Dan Watchurst, Ieuan Davies, Will Taylor, Joel Galley, James King, Edward Siggery, Josh Navidi, Morgan Allen.
Eilyddion- Rhys Williams, Joe Rees, James Thomas, Rhys Jenkins, Gareth Davies, Ashley Beck, Matthew Jarvis.