Bydd Prydain yn chwarae rhan gadarnhaol yn Ewrop, ond yn amddiffyn ei buddiannau cenedlaethol pan fydd angen.
Dyma oedd neges Prif Weinidog Prydain heddiw, ar ôl cyfarfod Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jose Manuel Barroso.
Dywedodd David Cameron bod Prydain eisiau i ranbarth yr ewro fod yn gryf yn economaidd – er nad yw’r Deyrnas Unedig yn rhan ohono.
Canmol Cameron
Dywedodd Jose Manuel Barroso bod mesurau economaidd llym Llywodraeth glymbleidiol Prydain wedi gwneud argraff arno.
Ceisiodd leddfu rywfaint ar ofnau’r Torïaid am golli sofraniaeth, drwy ddweud bod angen i’r Undeb Ewropeaidd ganolbwyntio ar “sylwedd” economaidd yn hytrach na mwy o drafodaethau ynglŷn â diwygio’r “sefydliad”.
Roedd y ddau’n cyfarfod cyn cynhadledd Undeb Ewropeaidd gyntaf David Cameron ers iddo ddod yn Brif Weinidog.
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio’n benodol ar sefydlogi ac adfer hyder yn yr ewro, drwy geisio rhwystro trafferthion economaidd Gwlad Groeg rhag lledu i wledydd eraill.
Mae pryder ynglŷn â sefyllfa economaidd Sbaen yn enwedig, sef y pumed economi mwyaf yn rhanbarth yr ewro.
Grym cyllid i’r Comisiwn
Ymysg y pynciau eraill dan ystyriaeth fydd sefydlu trefn i ganiatáu i’r Comisiwn Ewropeaidd fwrw golwg tros gyllidebau llywodraethau’r undeb, syniad sy’n amhoblogaidd gyda Llywodraeth Prydain.
Mae hefyd disgwyl i arweinwyr gefnogi treth ar y banciau, i sicrhau eu bod yn cyfrannu tuag at yr adferiad economaidd.