Mae’r Ariannin wedi rhoi rhybudd i weddill timau Cwpan y Byd gyda buddugoliaeth 4-1 yn erbyn De Korea yn Johannesburg.

Mae tîm Diego Maradona bellach ar frig Grŵp B ac fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn Groeg yr wythnos nesaf yn sicrhau eu bod nhw’n ennill y grŵp.

Ganzalo Higuain oedd prif ysbrydoliaeth yr Archentwyr ac fe sgoriodd dair gôl – y tro cyntaf i hynny ddigwydd yng Nghwpan y Byd ers 2002.

Un o chwaraewyr De Korea, Park Chu-young, a sgoriodd gôl arall yr Ariannin drwy daro’r bêl i mewn i’w rwyd ei hun.

Roedd yr Ariannin 2-0 ar y blaen ar ôl 33 munud pan beniodd Higuain y bêl heibio i olwr De Corea, Jung Sung-Ryong.

Ond ychydig cyn yr egwyl fe sgoriodd Lee Chung-yong er mwyn cadw gobeithion ei dîm yn fyw.

Aguero’n cael effaith

Fe ddechreuodd yr Ariannin yr ail hanner yn llawn bygythiad gyda Carlos Tevez ac Angel Di Maria yn cyfuno’n dda i greu cyfle arall i Higuain ond fe arbedodd y gôl-geidwad yn dda.

Fe ddylai Yeom Ki-hun fod wedi unioni’r sgôr i Dde Korea wedi deg munud o’r ail hanner wrth daro’r rhwyd ochr.

Prinhaodd y cyfleoedd i’r De Americanwyr nes i Maradona eilyddio Sergio Aguero am Tevez.

Fe gafodd ymosodwr Athletico Madrid effaith ar y gêm yn syth gan greu cyfle i Lionel Messi. Er bod golwr De Korea wedi arbed honno, fe fethodd ag atal Higuain rhag sgorio eto gyda chwarter awr yn weddill.

Cyfrannodd Aguero unwaith eto gyda chroesiad tuag at y postyn cefn i Higuain sgorio ei drydedd gôl.