Mae prop y Crusaders, Adam Peek, yn credu y bydd Leeds Rhinos yn wynebu tîm llawer gwell na’r un a gafodd grasfa ganddyn ar ddiwrnod cynta’r tymor.
Collodd y Crusaders 6-34 yn erbyn Leeds o flaen tyrfa o dros 10,000 o bobol ar y Cae Ras ond mae tîm Brian Noble yn llawn hyder ar ôl curo’r Bradford Bulls y penwythnos diwethaf, am yr ail dro’r tymor hwn.
Dyma oedd eu buddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm ac mae wedi ail-danio eu gobeithion o gyrraedd rownd y pedwar olaf ar ddiwedd y tymor.
Ond mae Leeds wedi ennill saith gêm yn olynol ac yn chwarae rygbi o safon uchel.
Cyfle
Er gwaethaf hynny, mae Adam Peek yn credu bod gan y Crusaders gyfle erbyn hyn i ymdopi gyda thîm Brian McClennan.
“Does dim un gêm yn y Super League yn hawdd, ac mae Leeds yn chwarae’n dda ar hyn o bryd,” meddai Peek.
“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dangos yr un awydd ac ymroddiad ag oedd gynnon ni yn erbyn Bradford a gwneud yn siŵr ein bod yn cymryd ein cyfleoedd.
“Dyw Leeds ddim yn dîm sy’n cynnig cyfleoedd ar blât, felly pan mae cyfle i sgorio, mae’n rhaid i ni ei gymryd.
“Y tro diwethaf i ni chwarae Leeds, roedden ni wedi ymdopi am tua 65 munud o’r gêm, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n chwarae am yr 80 munud llawn y tro yma.
“R’yn ni’n dîm gwell nawr na’r un chwaraeodd ar ddiwrnod cynta’r tymor.”