Mae rhai o ffoaduriaid y gymuned Usbek wedi dechrau dychwelyd i’w cartrefi yn ninas Osh, yn Kyrgyzstan, i edrych am fwyd a dŵr, er gwaethaf y perygl o drais.
Mae gwasanaethau dyngarol yn cael trafferth wrth geisio darparu bwyd a diod ar gyfer miloedd o bobol sydd yn aros i groesi’r ffin i wersylloedd yn Uzbekistan.
Yn Osh y gwelwyd y trais gwaethaf yn erbyn Usbekiaid gan y Kyrgiaid, ond mae’n ymddangos bod byddin wan y wlad wedi dechrau sefydlu rhyw fath o drefn yno erbyn hyn.
Marwolaethau
Y gred yw bod o leiaf 200 o bobol wedi cael eu lladd ers i’r ymladd ddechrau ddydd Iau diwethaf, ond mae honiadau bod y ffigwr yn nes at 300. Mae mwy na 100,000 o bobol wedi ffoi i Uzbekistan.
Mae’r trais yn debygol o lesteirio ymdrechion llywodraeth dros dro’r wlad i sefydlu trefn ar ôl disodli’r Arlywydd Kurmanbek Bakiyev ym mis Ebrill.
Mae’r awdurdodau newydd yn ei gyhuddo ef a’i deulu o fod yn gyfrifol am ddechrau’r trais diweddar drwy drefnu ymosodiadau ar bobol o’r ddwy gymuned er mwyn eu troi’n erbyn ei gilydd.
Y cyhuddiad yw y byddai hynny’n amharu ar refferendwm buan dros gyfansoddiad newydd y wlad.
Mae datganiad gan y Cenhedloedd Unedig yn honni bod y trais wedi dechrau pan wnaeth dynion mewn mygydau ymosod ar bobol mewn pum digwyddiad gwahanol yn Osh.
Roedd yr ymosodiadau wedi eu “targedu ac wedi eu cynllunio’n dda” meddai’r datganiad.