Mae’r Llywodraeth wedi rhoi stop ar werth £2 biliwn o brosiectau yr oedd Llafur wedi cytuno arnyn nhw.

Dywedodd Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, y byddai’n atal 12 prosiect – gan gyhuddo’r Blaid Lafur o wario “arian nad oedd ganddyn nhw”.

Roedd gweinidogion “wedi gwario’n wirion cyn yr etholiad gan wybod bod y coffrau’n wag”, meddai.
Ymysg y prosiectau sydd wedi eu hatal, mae canolfan ymwelwyr £25 miliwn yng Nghôr y Cewri, ac ysbyty gwerth £450 miliwn yn Hartlepool.

Mae 12 prosiect arall gwerth £8.5 biliwn wedi eu hatal dros dro er mwyn eu hailystyried yn ystod arolwg ehangach o wario gan Whitehall.

‘Anghyfrifol’

Dywedodd Danny Alexander bod y llywodraeth Lafur wedi addo gwario o leiaf £9 biliwn nad oedd ar gael.

“O ganlyniad i’r penderfyniadau gwael a wnaethpwyd gan y llywodraeth flaenorol rydw i wedi penderfynu canslo rhai prosiectau nad oedd werth yr arian,” meddai.

“Rydw i’n benderfynol o fynd i’r afael â’r broblem yma ar unwaith a sicrhau nad oes yr un llywodraeth yn gallu bod mor anghyfrifol wrth gynllunio at y dyfodol.”