Fydd heddwas a gafwyd yn ddieuog o ymosod ar ôl taro protestwraig gyda phastwn metal adeg cynhadledd y G20 ddim yn cael ei ddisgyblu.

Cafodd y Sarjant Delroy Smellie, 47, ei roi yn ôl ar ddyletswydd gyda Heddlu’r Met o fewn oriau i adael y llys ym mis Mawrth ac mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu wedi cyhoeddi heddiw nad oedd wedi camymddwyn.

Ond fe ddaeth yn amlwg fod yr heddwas heb rifau ar ei iwnifform a’i fod wedi gweithio am 28 awr heb ddim ond tair awr o hoe.

Yn ôl y Comisiwn, yr IPCC, mae angen gwneud yn siŵr bod plismyn yn gwisgo’u rhifau trwy’r amser ac mae angen trefnu shifftiau ar eu cyfer.

Roedd barnwr rhanbarth wedi dyfarnu bod modd cyfiawnhau taro’r ymgyrchydd hawliau anifeiliaid Nicola Fisher yn ystod protest y tu allan i Fanc Lloegr ar 2 Ebrill y llynedd.