Yn dilyn archwiliad post mortem, mae swyddogion wedi cadarnhau nad oedd dim amheus am farwolaeth dynes oedrannus yn Llandudno ddoe.

Roedd y BBC wedi adrodd ynghynt eu bod nhw’n ystyried bod y farwolaeth yn Ffordd Morley, Craig y Don, yn un amheus.

Fe gafodd archwilid fforensig llawn ei gynnal ar gorff y bensiynwraig, meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Steve Williams heddiw.

“Fe fydd Tîm Plismona yn y Gymdogaeth yn ymweld â’r ardal er mwyn tawelu meddwl y preswylwyr.”