Mae prosiect ymchwil wedi achub “trysorfa” werthfawr oedd wedi cael ei hanwybyddu a’i hesgeuluso, meddai arbenigwr celf.
Roedd cyhoeddi Biblical rt of Wales yn gyfraniad pwysig at dreftadaeth Cymru a hefyd yn gyfraniad i’r byd, meddai Peter Lord.
Fe gafodd cynnyrch y prosiect – sy’n cynnwys llyfr, DVD a chronfa wybodaeth anferth – ei lansio’n swyddogol neithiwr ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan, cartre’r gwaith.
‘Trysorau wedi’u cuddio’
Mae’n cynnwys miloedd o luniau, gweithiau celf ac adeiladu sydd wedi cael eu hysbrydoli gan y Beibl.
Roedd rhai o’r rheiny wedi eu cadw ynghudd heb eu dangos mewn sefydliadau, meddai Peter Lord; roedd gweithiau eraill mewn eglwysi a chapeli, heb i bobol sylweddoli eu gwerth.
“Roedd yna gorff anferth o waith ond doedd neb yn ei weld,” meddai’r hanesydd celf, sydd wedi gweithio ers blynyddoedd i dynnu sylw at gelfyddyd ‘goll’ Cymru.
“Roedd yna waith rhyfeddol ond roedd yn cael ei anwybyddu. Roedd hi’n amlwg fod yna drysorfa o waith.”
Deall Cymru
Roedd y gwaith yn bwysig o ran deall hanes a chymeriad Cymru hefyd, yn ôl Peter Lord, sydd wedi cyfrannu pennod at y llyfr.
“Does dim modd deall pwy ydyn ni fel pobol heb ddeall rôl ganolog y Beibl yn ein ffordd o feddwl, yn bobol sy’n credu neu beidio. Mae’n rhan o ramadeg ein meddyliau ni.
“Mae’r prosiect yn gyfraniad at ddeall pwy ydyn ni ac mae hefyd yn gyfraniad o Gymru i’r byd.”
Yn ôl y tîm ymchwil yn Llanbed, dyma’r tro cynta’ i brosiect gael ei greu o’r dechrau ar dair lefel – llyfr, DVD a chronfa wybodaeth – ac roedd y cynllun wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.