Mae hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde wedi annog y blaenasgellwr Gavin Thomas i fachu’r cyfle i ddangos ei ddoniau yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn.
Mae chwaraewr y Dreigiau wedi cael ei ddewis yn rheng ôl Cymru i wynebu’r Crysau Duon yn Dunedin dros y penwythnos.
Gyda Martyn Williams heb fod ar gael a Sam Warburton wedi ei anafu, mae McBryde yn credu ei bod yn gyfle i Gavin Thomas ei brofi ei hun cyn Cwpan y Byd.
Dyw Thomas ddim wedi chwarae i Gymru ers y daith i Awstralia yn 2007 pan oedd Gareth Jenkins yn hyfforddwr.
Hwb
Byddai perfformiadau da yn y ddwy gêm brawf yn hwb i obeithion Thomas o gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru i gystadlu yn y Cwpan yn 2011.
“Roedd colli Sam yn ergyd yn enwedig ar ôl iddo chwarae mor dda yn erbyn De Affrica,” meddai McBryde. “Ond mae gan Gavin Thomas gyfle rŵan.
“Mae Gavin wedi bod yn agos at ennill ei le yn y tîm ers amser hir. Fe orffennodd y tymor yn dda i’r Dreigiau ac mae’n llawn haeddu’r cyfle.
“Dydi o ddim yn mynd i gael sawl cyfle arall yn ei oedran o, felly dw i’n siŵr y bydd ef o’n awyddus iawn i brofi ei hun.”