Bu farw John Meirion Morris, y cerflunydd sydd wedi anfarwoli rhai o fawrion y genedl mewn clai ac efydd.
Gwnaeth y cerflunydd benddelwau o Gwynfor Evans, T Llew Jones, Gerallt Lloyd Owen, Ray Gravell, Nesta Wyn Jones, Gwyn Thomas, ac Ann Catrin Evans, ymysg enwogion eraill. Mae’n adnabyddus hefyd am gynllunio cerflun trawiadol i goffáu boddi Tryweryn, y mae galw o’r newydd i’w osod ar lan Llyn Celyn.
Cafodd John Meirion Morris ei fagu yn Llanuwchllyn, a bu’n dysgu Celf yn Llanidloes cyn cael ei swydd ddarlithio gyntaf yn Leamington Spa. Yn y 1960au, bu’n darlithio Cerfluniaeth ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana, ac mae delwau’r wlad honno wedi dylanwadu ar ei waith, fel gwnaeth cwrs ar gelfyddyd Geltaidd ym Mangor yn y 1990au. Buodd yna’n darlithio ym mhrifysgolion Lerpwl ac Aberystwyth. Ar ôl byw ym Mrynrefail ger Caernarfon, dychwelodd i fro ei febyd ym Mhenllyn yn 1977 i ganolbwyntio ar fod yn artist.
Roedd yn ymddiddori yng nghredoau Shamaniaeth a Bwdhaeth, a sgrifennodd erthygl i gylchgrawn Bwdhaeth yn yr Alban ar y gelfyddyd Geltaidd. Roedd sawl darn ganddo yn cynnwys symbolau a oedd yn perthyn i fyd chwedloniaeth a Phaganiaeth cyn-Gristnogol, ac enwodd rai o’i gerfluniau ar ôl cymeriadau fel Lleu, Blodeuwedd, Modron a Rhiannon.
Yn 2005, cafodd arddangosfa sylweddol yn Academi Frenhinol Conwy, ac yn 2009, bu arddangosfa o’i gerfluniau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae un o’i gerfluniau yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Dywedodd y llenor Aled Jones Williams, a oedd yn ficer gyda’r Eglwys yng Nghymru ar y pryd, wrth gylchgrawn Golwg yn 2009: “Beth sy’n ddiddorol am John yw ei fod yn disgrifio’i hun fel anffyddiwr, ond wedi gwneud mwy na neb i ddeffro’r ochr ysbrydol yn bobol. Mae rhywbeth yn eironig yn hynny. Mae yna rywbeth cyfriniol am John Meirion… Mae o’n un o’r pwysica’ o’n cerflunwyr ni.”
Buodd John Meirion Jones ei hun yn egluro wrth Golwg yn 2009 beth oedd arwyddocâd ei waith: “Mae yna ryw rym esgynnol, a rhyw rym dyrchafol i fy ngwaith, sy’n perthyn i oes Neolithig, a chelf Geltaidd yn arbennig. Beth sy’n od – yn gyffredinol mae’n bwysig i bobol bod rhywbeth yn naturiolaidd, yn aml yn llythrennol. Dydi fy ngwaith i ddim yn llythrennol. Roedd celf mawr fel y cyfnod Neolithig yn amlwg yn drosiadol… yn fwy nag y gallwch chi ei egluro.”
Galw eto am godi cerflun Tryweryn
Mae yna alw o’r newydd i osod cofeb efydd John Meirion Morris i gofio am foddi Tryweryn ar lan Llyn Celyn ger y Bala. Mae’r cerflun ar siâp aderyn dŵr, a chôr o bobol o dan ei hadenydd yn bloeddio’u rhwystredigaeth.
Cafwyd ymateb brwd gan y cyhoedd pan sefydlwyd ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997 i godi’r gofeb, ond ni chafodd y cynllun ei wireddu oherwydd y gost eithriadol. Y llynedd, deallodd Golwg fod “rhwng £13,000 a £15,000” yn dal i fod mewn cronfa yng ngofal cwmni Guthrie Jones & Jones yn y Bala.
Daeth galw eto i wireddu’r cynllun ar ôl i wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud gael ei difetha’r llynedd ac mae yna rai eto’n galw amdano. Dywedodd Dafydd Iwan ar Twitter ddydd Llun: ‘Coffa da am un o wir artistiaid cenedlaethol Cymru… Y ffordd amlwg i’w gofio a dathlu ei waith fyddai codi’r cerflun a greodd i gofio Tryweryn, a dangos i’r byd fod Cymru yn codi fel aderyn gobaith o ddyfroedd y llyn.’
Wrth drafod y gofeb gyda Golwg yn 2009, dywedodd John Meirion Morris: “Mae yna lot yn dweud ei fod yn cynrychioli beth rydan ni’n ei deimlo ynglŷn â’r gorffennol a beth rydan ni’n dyheu amdano yn y dyfodol – y gallu i lywodraethu ein hunain, a’r rhyddid crefyddol yma.”
Enillodd John Meirion Morris Wobr Glyndŵr am gyfraniad eithriadol i’r celfyddydau yng Nghymru yn 2001. Mae’n gadael ei wraig Gwawr, a’i blant Iola ac Alwyn. Bu farw mab arall, Dylan, yn 2002.