Petaech chi’n diodde’ o salwch gweddol ddifrifol a’r rhagolygon ar ei gyfer yn ansicr, dw i’n amau a fyddech chi’n mynd i chwilio am broblemau ychwanegol.

A dweud y gwir, tuedd y rhan fwya’ ohonon ni fyddai rhoi pethau eraill o’r neilltu a chanolbwyntio ar ymladd y salwch, neu o leia’ ddelio ag o.