Mae medal a enillodd cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, John Charles, wedi cael ei gwerthu am £8,800 mewn ocsiwn.

Enillodd Charles (dde, canol) y fedal am helpu Juventus i ennill cynghrair pêl-droed yr Eidal. Roedd y Cymro wedi symud i’r clwb flwyddyn ynghynt o Leeds Utd am £65,000 – record Brydeinig bryd hynny.

Fe ddaeth John Charles yn arwr yn yr Eidal gan gael ei enwi’n chwaraewr gorau’r wlad yn ei dymor cynta’.

Yn ystod dathliadau canmlwyddiant Juventus fe gafodd y Cymro hefyd ei enwi’n chwarae tramor gorau’r clwb erioed.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran arwerthwyr Bonhams yng Nghaer mai casglwr o wledydd Prydain oedd wedi prynu’r fedal.

Ar un ochr i’r fedal mae bathodyn Juventus ac ar yr ochr arall mae’r geiriau “Campione D’Italia; Charles, William John, 1957-58.”