Bydd miloedd o blant ysgol yn ne-ddwyrain Cymru’n cael aros adref o’r ysgol ar ddiwrnod agoriadol y Cwpan Ryder – er mwyn osgoi tagfeydd ar y ffyrdd.

Bydd golffwyr gorau Ewrop a’r Unol Daleithiau’n cystadlu yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd rhwng 1 a 3 Hydref, ac mae disgwyl degau o filoedd o ymwelwyr yn yr ardal.

Bydd pob ysgol yng Nghaerdydd a mwyafrif rhai Casnewydd yn cynnal un o’u diwrnodau hyfforddi staff ar y dydd Gwener, 1 Hydref.

Fe fydd hynny hefyd yn rhoi cyfle i’r plant wylio dechrau’r gystadleuaeth.

Gan y byddai’n rhaid cynnal diwrnod hyfforddi rhyw dro beth bynnag, mae mwyafrif ysgolion yr ardal wedi cytuno i’w cynnal ar ddiwrnod cynta’r gystadleuaeth.