Fe fydd gan Gaerdydd ac Abertawe gemau caled ar ddechrau’r tymor nesa’ wrth iddyn nhw geisio unwaith eto i godi o’r Bencampwriaeth i’r Uwch Gynghrair.
Fe fydd Caerdydd yn wynebu Sheffield Utd gartref yn eu gêm gynta’ tra bod Abertawe yn teithio i’r Stadiwm KC i wynebu Hull, a ddaeth i lawr eleni.
Mae Sheffield Utd yn gobeithio cystadlu am le yn y gemau ail gyfle tra bod Hull yn gobeithio ennill dyrchafiad yn syth yn ôl i’r Uwch Gynghrair.
Bydd yr Elyrch a’r Adar Glas yn wynebu ei gilydd am y tro cyntaf ar 6 Tachwedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac yn cwrdd eto yn Stadiwm Liberty ar 5 Chwefror.
Leeds a Millwall yn gynnar
Ymhlith gemau mawr eraill Caerdydd, fe fyddan nhw’n wynebu Millwall gartref ar 25 Medi ac yn teithio i Elland Road i herio Leeds Utd ar 23 Hydref.
Mae cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn un brysur iawn i’r clybiau gyda phedair gêm i’w chwarae mewn wyth diwrnod.
Ar Ŵyl San Steffan fe fydd Abertawe yn chwarae yn erbyn QPR tra bod Caerdydd yn croesawu Coventry.
Diwedd diddorol
Fe fydd diwedd y tymor fel llun-mewn-drych o’r dechrau gyda gemau a allai fod yn dyngedfennol yn erbyn timau eraill ar y brig.
Ar ddiwrnod olaf y tymor bydd tîm Dave Jones yn herio Burnley yn Turf Moor – tïm arall sy’n disgyn eleni – a dyna pryd y bydd Abertawe’n wynebu Sheffield Utd.