Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A494 ym Methel ger y Bala bore ddoe.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle ychydig wedi hanner awr wedi deg y bore. Roedd dau feic modur a fan Ford yn rhan o’r ddamwain.
Fe gafodd gyrrwr un o’r beiciau modur – Suzuki – farw yn y fan a’r lle ac fe gafodd dynes a oedd yn gyrru beic modur Kawasaki ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu 08456071001.