Mae’r BBC wedi cael ei beirniadu am fethu â chynnig gwasanaeth gwell i Gymru.
Daw’r feirniadaeth o gyfeiriad adroddiadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig, a Phwyllgor Ymgynghorol Cymreig Ofcom.
Yn ôl papur newydd y Western Mail, mae’r adroddiadau, sy’n ymateb i Adolygiad Strategol y Gorfforaeth ar gyfer 2010, yn tynnu sylw at ddiffygion mawr yng ngwasanaeth y BBC yng Nghymru, ac yn galw am well darpariaeth.
Mae’r diffygion yn cynnwys:
• Toriadau mewn gwario ac yn nifer y rhaglenni Saesneg sy’n benodol Gymreig.
• Diffyg darpariaeth ar gyfer gwasanaethau digidol DAB – mae’n debyg mai dim ond tua 45% o bobol yng Nghymru sy’n gallu derbyn Radio Cymru a Radio Wales yn ddigidol.
Mae’r adroddiadau hefyd yn awgrymu fod y BBC yn canolbwyntio gormod ar Lundain ac yn methu â darparu’n ddigonol ar gyfer Yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau eraill Lloegr.
Roedd adroddiad annibynnol gan yr Athro Anthony King ddwy flynedd yn ôl eisoes wedi cyhuddo’r BBC o ganolbwyntio gormod ar Lundain.