Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar fai am beidio ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Dyna gyffes onest Mike German wrth iddo roi’r gorau i fod yn Aelod Cynulliad ar ol 11 mlynedd, a’i throi hi am Dŷ’r Arglwyddi ddiwedd y mis.
Yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 roedd hi’n edrych yn debygol y byddai tair plaid leia’r Cynulliad yn dod at ei gilydd i ffurfio clymblaid enfys, gan adael y Blaid Lafur heb rym.
Ond aeth y trafodaethau ar chwâl, a Phlaid Cymru a Llafur aeth ati i ffurfio llywodraeth yn y Bae.
“Y siom fwyaf i fi mae’n rhaid yw nad ydyn ni mewn llywodraeth ar y foment hon,” meddai, “a ‘mod i wedi methu perswadio fy mhwyllgor gwaith (i fynd am glymblaid yr enfys).”
Mae hi’n drefn anymarferol sydd angen ei diwygio, yn ôl Mike German.
“Mae gwersi i ni ddysgu o’r mecanwaith triphlyg sydd ganddom ni,” meddai.
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 17