Nid yw cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn parchu ffotograffwyr yn ôl un sy’n flin na chafodd ei henwi ar restr fer y gystadleuaeth.
Mae’r Academi, sy’n trefnu’r cystadlu, yn bendant mai hybu gwaith llenyddol yw unig bwrpas Llyfr y Flwyddyn.
Ond mae Marian Delyth yn dweud y dylid dangos yr un parch at adwuron delweddau, ag sy’n cael ei ddangos at awduron geiriau.
Hi sydd wedi tynnu’r lluniau ar gyfer y gyfrol, Cymru: Y 100 Lle i’w Gweld cyn Marw ond dim ond enw’r awdur, John Davies, sydd wrth y gyfrol ar y rhestr fer.
“Mae’r gyfrol yn blethiad o waith awdur geiriau ac awdur lluniau – ond yn amlwg yn cydymffurfio gyda rheolau’r gystadleuaeth,” meddai Marian Delyth, sydd wedi cwyno wrth y trefnwyr, yr Academi, ynghylch y mater.
“Ond, yn ôl y rheolau hynny, cyfraniad John yn unig gaiff ei ystyried wrth benderfynu’r wobr ac fe fyddai yn ei derbyn petai’n ennill.
“Nid bai John yw hynny; dymunaf pob hwyl iddo. Mater i’w drafod yw p’un a yw hynny’n gwbl deg yn achos y gyfrol yma.”
Mae’r Academi yn bendant na fydd newid yn rheolau cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
“Mae’n wobr ar gyfer llyfrau sydd wedi’u hysgrifennu’n greadigol, a’r cynnwys llenyddol yn unig sydd yn cael ei ystyried gan y beirniaid.
“Gwaith unigol yr awdur caiff ei feirniadu, gan eithrio unrhyw luniau, darluniau neu gyflwyniadau. Yr awdur yn unig, felly, sydd yn gymwys i dderbyn y wobr.”
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 17