Mae llefarydd chwaraeon y Blaid Lafur yn yr Alban wedi ymddiswyddo ar ôl cael ei ddal yn llygadu merch mewn pwyllgor ac yna siarad amdani.

Fe ymddiswyddodd Frank McAveety ar ôl cyfarfod byr gydag arweinydd y blaid Iain Gray, gan ymddiheuro ynglŷn â’i sylwadau am y ferch ifanc oedd yn gwylio pwyllgor ddydd Mercher.

Roedd wedi siarad yn ystod egwyl yn y trafodaethau, heb sylweddoli bod y meiciau’n codi’r sgwrs rhyngddo ac un o’r staff clerigol. Fe gafodd ei sylwadau eu darlledu ar sianel deledu Holyrood sydd ar gael ar y rhyngrwyd.

Dyma’r geiriau

“Mae yna ferch bert iawn yn yr ail res, yr un dywyll. Mae hi’n ddeniadol iawn. Yn neis iawn, yn denau iawn. Dw i’n teimlo’r gwres o fan hyn. Mae ganddi’r olwg Filipino yna, ti’n gwybod? Fel y byddet ti’n ei weld mewn paentiad gan Gauguin. Dyna dipyn o ddiwylliant i ti.”

Ymddiheuro

Mewn llythyr yn ymddiheuro am ei sylwadau dywedodd nad oedd eisiau “i’r digwyddiad fychanu gwaith y pwyllgor na fy nghyfraniad i mewn unrhyw ffordd”.

Nid dyma’r tro cyntaf i Frank McAveety fynd i drafferthion – chwe blynedd yn ôl, fe fu’n rhaid iddo ymddiheuro am gamarwain y senedd ar ôl cyrraedd i’w waith yn hwyr.

Dywedodd wrth y Senedd ei fod wedi ei ddal yn ôl gan fusnes gweinidogol ond mewn gwirioedd roedd yn bwyta cinio yn y ffreutur. Ar y pryd daeth y digwyddiad yn adnabyddus o dan yr enw ‘Piegate’.

Dywedodd yr Aelod o Senedd yr Alban Sandra White bod sylwadau Frank McAveety yn “dwp, rhywiaethol, yn frwnt a hiliol”.