Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn credu fod tua 20 o bobol wedi marw yn dilyn llifogydd annisgwyl ddoe – ond mae o leiaf 12 yn dal i fod ar goll.

Roedd glaw trwm wedi llifo i lawr mynyddoedd ger ardal y Cote d’Azur yn ne ddwyrain y wlad. Mae’n debyg mai dyna oedd y glaw trymaf mewn 200 mlynedd yno.

Roedd nifer o’r rhai a fu farw yn eu ceir pan lifodd y dŵr, a oedd hyd at ddwy fetr o ddyfnder, drwy strydoedd Draguignan, y dref a gafodd ei heffeithio waethaf.

Symud ceir

Roedd y dŵr wedi symud ceir a thynnu coed o’u gwreiddiau ac wedi difrodi waliau tai.

Cododd y llifogydd mor sydyn mewn rhai ardaloedd, fel y bu’n rhaid i rai pobol ddianc i ben toeau eu cartrefi cyn cael eu hachub gan hofrenyddion.

Mae’r dŵr wedi gostwng erbyn hyn, ond mae’r gwaith clirio ac achub yn parhau.

Mae mwy na 1,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi.