Mae Arlywydd Syria wedi dweud fod rhyfel yn y Dwyrain Canol yn fwy tebygol erbyn hyn, ar ôl i filwyr Israel saethu naw o bobol yn farw ar long ddyngarol fis diwethaf.

Fe fyddai canlyniadau difrifol yn dilyn y penderfyniad i ladd y gweithwyr dyngarol o Dwrci ar un o’r chwech o longau oedd yn ceisio torri drwy flocâd Israel i Gaza, meddai Bashar al-Assad.

Dywedodd yn ystod cyfweliad efo’r BBC fod unrhyw obaith am heddwch yn y tymor byr wedi cael ei “ddinistrio”, a bod Syria erbyn hyn yn gobeithio atal rhyfel yn y rhanbarth.

Ond dywedodd nad oedd gobaith o sicrhau cytundeb heddwch gyda Llywodraeth bresennol Israel, sy’n “hoff o chwarae gyda thân”.

Gwadodd hefyd fod Syria yn arfogi Hezbollah o Libanus, sydd wedi bod yn rhyfela ag Israel.

Roedd yn barod i gydweithio â’r Unol Daleithiau yn ogystal ag Iran, meddai.