Fe fydd digwyddiad o bwys yn y flwyddyn 2014 yn penderfynu ar drywydd gweddill y 21ain ganrif, yn ôl academydd o Brifysgol Caergrawnt.
Dywedodd yr Athro Nicholas Boyle fod yna drobwynt ynghanol ail ddegawd pob canrif oedd yn penderfynu ar gyfeiriad y ganrif honno.
Yn 1517 hoeliodd Martin Luther ei thesis ar ddrws eglwys yn Wittenburg, gan ddechrau twf Protestaniaeth.
Canrif yn ddiweddarach, yn 1618, dechreuodd y Rhyfel 30 mlynedd a degawdau o frwydro crefyddol yng Ngorllewin Ewrop.
Cynhaliwyd Cyngres Vienna yn 1815 yn dilyn trechu Napoleon, gan arwain at ganrif o sefydlogrwydd ar draws Ewrop.
Ac yn 1914 dechreuodd y Rhyfel Byd cyntaf, cyflafan a fyddai’n arwain at frwydro pellach drwy gydol yr 20fed ganrif.
“Mae cymeriad pob canrif yn dod i’r amlwg yn ystod yr ail ddegawd, ac ni fydd ein canrif ni’n wahanol,” meddai Nicholas Boyle wrth bapur newydd y Telegraph.
Dywedodd ei fod o’n credu mai ryw ddatblygiad yn yr argyfwng economaidd fydd yn penderfynu a ydi’r byd yn mwynhau heddwch a ffyniant ynteu ryfel a thlodi.
“Mae cymeriad canrif yn dechrau dod i’r amlwg wrth iddo agosáu at ei ben-blwydd yn 20in oed, fel y mae o mewn person,” meddai.
“Erbyn ail ddegawd canrif mae’r genhedlaeth oedd yn rheoli ar ddiwedd y ganrif flaenorol yn dechrau colli grym.
“Mae’r ddegawd yn dechrau cael ei ddiffinio gan blant sydd wedi eu geni yn y ganrif newydd.”