Mae’r berthynas rhwng Ysgrifennydd Cymru a phrif bleidiau’r Cynulliad wedi dirywio ymhellach ar ôl ymddangosiad stormus ym Mae Caerdydd ddoe.

Fe fu’n rhaid i’r Llywydd ymyrryd i dawelu ACau wrth iddyn nhw weiddi ar draws araith Cheryl Gillan.

Yn awr, mae dau o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi ymosod arni, gan ei chyhuddo o fethu ag amddiffyn nac egluro polisïau Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain.

Wnaeth yr Ysgrifennydd ddim byd ond gwadu cyfrifoldeb, meddai AC Aberconwy, Gareth Jones. Doedd rhoi’r bai trwy’r amser ar y Llywodraeth Lafur ddim yn ddigon da, meddai.

Yn ôl AC Llanelli, Helen Mary Jones, roedd polisïau’r Llywodraeth newydd am arwain at doriadau anferth mewn swyddi.

“Er gwaetha’r holl rybuddion, mae’r Llywodraeth ConDem yn benderfynol o dorri’n rhy gyflym ac yn rhy fuan,” meddai. “Mae fy nghymunedau’n ofnus a, rhaid i fi ddweud, dw innau hefyd.”

Y bai ar Lafur, meddai Gillan

Ddoe, roedd Cheryl Gillan wedi rhoi’r bai am y toriadau’n blwmp ac yn blaen ar “reolaeth ariannol anghyfrifol” y Llywodraeth Lafur.

Fe bwysleisiodd na fyddai Cymru’n diodde’ dim mwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig a bod datganoli’n bwysig i’r Llywodraeth yn Llundain.

Wrth ateb, fe apeliodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar iddi ymladd tros chwarae teg ariannol i Gymru ac am y £300 miliwn y flwyddyn sy’n ddyledus iddi, yn ôl Comisiwn Holtham.

Llun: Helen Mary Jones – “yn ofnus”