Mae cadeirydd BP wedi ymddiheuro ar ôl dweud fod ei gwmni yn poeni am y “bobl fach” sydd wedi eu heffeithio gan drychineb olew Gwlff Mecsico.
Roedd Carl-Henric Svanberg yn siarad â newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, sôn am drafferthion busnesau bychain a physgotwyr.
“Rydym ni’n poeni am y bobol fach”, meddai. Mae wedi ei feirniadu gan bobol arfordir Gwlff Mecsico sy’n dweud bod y sylwadau yn nawddoglyd.
Dywedodd yn ddiweddarach ei fod wedi siarad yn drwsgl, a’i fod wedi ceisio cyfleu bod BP yn deall yr effaith fawr y mae’r llygredd yn ei gael ar bobol sy’n byw ac yn gweithio yn ardal y Gwlff.
Cronfa
Daw ei sylwadau wrth i BP gytuno i roi £13.4 biliwn at gronfa annibynnol i dalu iawndal i bobol sydd wedi colli’u swyddi a’u bywoliaeth oherwydd y llygredd.
Maen nhw hefyd wedi cytuno i beidio â thalu difidend i gyfranddalwyr.
Fe ddaeth hynny ar ôl cyfarfod rhwng penaethiaid BP a’r Arlywydd Barack Obama yn y Tŷ Gwyn.
Ers y trychineb amgylcheddol mwyaf yn hanes y wlad a ddechreuodd bron i ddeufis yn ôl, mae miliynau ar filiynau o alwyni olew crai wedi gollwng i mewn i’r Gwlff.
Bydd pennaeth BP, Tony Hayward, yn cael ei holi gan bwyllgor o wleidyddion yng Nghyngres yr Unol Daleithiau, sy’n ymchwilio i’r drychineb, heddiw.