Mae amheuon gwirioneddol a fydd hi’n bosib cynnal gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o dan bwysau’r argyfwng ariannol.
Dyna’r rhybudd wrth i arweinwyr awdurdodau lleol Cymru ddod at ei gilydd am eu cyfarfod blynyddol yn Llandudno.
Heb weithredu, fe fydd y gwasanaethau’n wynebu diffyg o £170 miliwn eleni, yn ôl adroddiad sy’n mynd gerbron Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru.
Ond fe fyddan nhw’n clywed hefyd bod toriadau ariannol mawr yn wynebu’r holl wasanaethau, gyda chyhoeddiadau eisoes bod 3,000 o swyddi’n mynd yn ystod y tair blynedd nesa’ – a rhagor o ddiswyddo’n debygol.
Diffygion
Mae ffigurau gan gwmni cyfrifwyr Deloitte yn awgrymu y gallai cynghorau Cymru fod yn gwneud colledion o rhwng £30 miliwn a £120 miliwn yr un erbyn 2014.
Mae disgwyl toriadau o tua 16% mewn arian refeniw tros y pum mlynedd nesa’ a 50% mewn arian cyfalaf – yn ôl y Gymdeithas, fe fydd hynny’n ei gwneud hi’n anodd cynnal ysgolion a ffyrdd.
Yn ôl Cyfarwyddwr y Gymdeithas, Steve Thomas, does dim toriadau tebyg wedi bod o’r blaen ym maes llywodraeth leol.
Ar Radio Wales, fe rybuddiodd bod rhagor o swyddi’n sicr o fynd a bod rhai adrannau – fel rhai hamdden – yn debyg o gael “cweir”.
Cyfle
Fe fydd swyddogion y Gymdeithas yn rhybuddio’r cynghorwyr fod yna gyfle eleni, a dim ond eleni, i roi trefn ar bethau cyn toriadau mwy llym.
Yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ar bob agwedd o waith y cynghorau, y proffwydo yw y bydd gan yr awdurdodau lai o adnoddau i ddelio gyda rhagor o alw.
Enghraifft o’r pwysau ychwanegol yw’r broffwydoliaeth y bydd yna 20,000 yn rhagor o bobol yn oed pensiwn erbyn 2015 a 125,000 yn rhagor o bobol yn diodde’ o gyflyrau cronig erbyn 2016.
‘Ofnadwy o anodd’
“Does dim amheuaeth y bydd yr ychydig flynyddoedd nesa’n rhai ofnadwy o anodd i’r gwasanaethau cyhoeddus,” meddi swyddogion y Gymdeithas.
Eisoes, medden nhw, mae cynghorau wedi gwario £105 miliwn o’u harian wrth gefn ers 2005-6 ac fe fydd £10 miliwn arall yn mynd eleni.
Llun: Adeilad Cyngor Sir Gwynedd