Mae o leiaf 46 o bobol wedi marw yn dilyn tirlithriadau a achoswyd gan ddau ddiwrnod o law trwm yng ngogledd orllewin Burma.
Yn ôl adroddiadau, roedd adeiladau ar lethrau mynyddoedd wedi dymchwel, a phontydd wedi cael eu dinistrio gan lifogydd yn nhalaith Rakhine, sydd ar y ffin â Bangladesh.
Mae llifogydd yn Burma tua’r adeg yma bob blwyddyn. Mae’r tymor monsŵn fel arfer yn dechrau tua diwedd mis Mai.
Roedd 140,000 o bobol wedi marw neu wedi mynd ar goll pan darodd Seiclon Nargis y wlad ym mis Mai 2008.